Site news

EVOLVE 2015 2016

EVOLVE 2015 2016

gan Deleted user -
Number of replies: 0
Annwyl Bennaeth /Cydlynwyr Ymweliadau Addysg Mae templed polisi ar gyfer Ymweliadau Addysgol Ynys Mon 2015-16 (sydd yn ymgorffori gweithdrefnau’r Sir) nawr i’w weld ar safle Evolve Ynys Mon Rhaid i’r ysgol fod â Pholisi Ymweliadau Addysgol cyfredol wedi’i uwch lwytho ar system Evolve yn seiliedig ar dempled Polisi Ymweliadau Addysgol a ddarparwyd yn adran ’Adnoddau’ ar safle Evolve Ynys Mon www.angleseyvisits.org.uk . Er mwyn sicrhau bod eich polisi’r ysgol yn gyfredol: 1. Agor Templed Polisi Ymweliadau Addysgol Ynys Mon 2015-16 (atodwyd uchod a/neu i’w gael ar safle Evolve Ynys Mon www.Angleseyvisits.org.uk 2. Addasu’r adrannau sydd wedi eu hamlygu mewn melyn i adlewyrchu’r hyn aiff ymlaen yn eich ysgol/sefydliad. 3. Gallwch ychwanegu at adrannau eraill o’r polisi i ddynodi anghenion ychwanegol ar gyfer cynllunio ymweliad o fewn eich ysgol/sefydliad ond NI DDYLECH ddileu unrhyw gynnwys o Adran A. 4. Gweithdrefnau rheoli risg safonol (adran B) - rhaid i chi ddiwygio’r gweithdrefnau rheoli risg yn Adran B i ddangos sut mae eich arweinwyr ymweliadau yn rheoli ymweliadau oddi ar safle. Mae’n bwysig ei fod yn adlewyrchu’r gwir arfer yn ystod ymweliadau a gynhelir gan eich ysgol/sefydliad - os caiff ei nodi, disgwylir i bawb gydymffurfio. Ar ôl ei gwblhau, dyma’r asesiad risg safonol ar gyfer pob ymweliad oddi ar y safle a gynhelir gan eich ysgol/sefydliad. • Mae disgwyl i’ch ysgol ddilyn gweithdrefnau’r AALL ar gyfer cynllunio, rhoi sêl bendith a monitro ymweliad addysgol trwy ddefnyddio’r system cynllunio a rhoi sêl bendith ar-lein EVOLVE ar gyfer ymweliad sy’n cael ei redeg gan staff neu wirfoddolwyr yr ysgol/sefydliad. (Gweler atodiad uchod am rhagor o wybodaeth) • Rhaid i staff sy’n cynllunio ymweliad addysgol sicrhau eu bod yn cynllunio eu hymweliad gan ddefnyddio system EVOLVE www.Angleseyvisits.org.uk ac yn dilyn y gweithdrefnau a amlinellir yn y polisi hwn. Caiff y polisi hwn ei adolygu (a’i ddiweddaru) yn flynyddol (fel arfer Tymor yr Hydref). Rhaid i staff sy’n cynllunio ymweliad addysgol sicrhau eu bod yn dilyn y gweithdrefnau a amlinellir yn y polisi hwn. Dylai staff hefyd gyfeirio at a dilyn y canllawiau perthnasol (sy’n ymwneud â natur yr ymweliad sy’n cael ei chynllunio) fel yr amlinellir yng nghanllawiau Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored (OEAP) y gellir edrych arnynt yn adran ‘adnoddau ar Evolve www.Angleseyvisits.org.uk. Cysylltwch, os oes gennych angen cefnogaeth gyda’r uchod Cofion Arwel Elias Ymgynghorydd Ymweliadau Addysg Gwynedd a Mon / Hyfforddwr Awyr Agored Nant BH OEC Education Visits Advisor Gwyneddd and Anglesey / Outdoor Education Instructor Nant BH OEC Gwasanaethau Addysg/Education Services Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg/Social Care and Education Services Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy County Borough Council E-Bôst/E-Mail: arwel.elias@conwy.gov.uk Ffôn/Tel: 01492 643 089 Symudol/Mobile: 07775 030 241