Site news

Ymgynghori Tymhorau Ysgol 17 18.

Ymgynghori Tymhorau Ysgol 17 18.

gan Deleted user -
Number of replies: 0
Gweler neges isod gan Llywodraeth Cymru. Amgaeaf y ddogfennaeth er hwylustod.Mae fersiwn i bobl ifanc ar gael ar wefan y Llywodraeth. Cyfnod ymgynghori hyd at 1.2.2016. Cewch ymateb fel ysgol unigol neu cewch ymateb i sylw Gareth Jones, Swyddog, er mwyn cynnwys eich sylwadau yn ymateb yr Awdurdod. Bydd trafodaeth yn y Grwp Strategol a'r Grwp Uwchradd. (Fersiwn Saesneg ar wahan) Mae Gweinidogion Cymru wedi defnyddio Deddf Addysg (Cymru) 2014 i wneud newidiadau deddfwriaethol i’r modd y caiff dyddiadau tymhorau ysgol eu pennu er mwyn cysoni’r dyddiadau ar draws pob ysgol a gynhelir. Mae'r newidiadau hyn yn golygu bod Gweinidogion Cymru yn gallu rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch dyddiadau eu tymhorau os nad yw'r dyddiadau hynny wedi'u cysoni, neu os oes angen eu newid. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gwahodd eich sylwadau ynghylch y dyddiadau tymor arfaethedig a’r cyfarwyddyd drafft. Gweler y dolen isod os gwelwch yn dda. http://gov.wales/consultations/education/harmonising-school-term-dates-2017-2018/?skip=1&lang=cy