Amgaeaf lythyr yn gofyn barn y Corff Llywodraethol ar yr ymgynghori a ddigwyddodd gyda newidiadau yn y cynllun brecwast am ddim.
Gofynnir i'r Corff ei drafod yn y cyfarfod llawn nesaf gan ymateb pe dymunir. Mae cyfres o gyfarfodydd wedi eu trefnu ac mae croeso i aelodau'r Corff fynychu gan ddatgan hyn ymlaen llaw. Os nad oes ymateb yna ni chynhelir y cyfarfodydd.
Mae'r arfarniad yma'n mynd yn fyw ar survey monkey hefyd a dylid annog rhieni i ymateb.
Bydd yr Awdurdod yn rhannu manylion gweithredu'r cynllun newydd yn Nhymor y Gwanwyn 2016.