Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar set o ddyddiadau ysgol 2018 2019. Gweler y ddogfen gan y Llywodraeth a bydd angen danfon unrhyw ymateb iddynt erbyn 20 Mawrth 2017. Er gwybodaeth mae'r dyddiadau yn union fel yr ymgynghorodd yr Awdurdod gyda chwi'n flaenorol cyn eu danfon i'r Llywodraeth. Un goblygiad amlwg bydd yr angen i ystyried y defnydd o'r diwrnod olaf o'r flwyddyn ysgol, sef Dydd Llun 22 Gorffennaf 2018. Rhagwelir y byddem yn trafod defnydd o'r diwrnod fel diwrnod HMS a hyn fel dwy noson gwyll. O wneud hyn gall ysgolion gau ar Ddydd Gwener 19 Gorffennaf. Gofynnaf i chwi drafod hyn yn ddalgylchol (cynradd ac uwchradd) gan ddanfon eich sylwadau i mi erbyn diwedd Tymor y Gwanwyn 2017. Diolch am eich cydweithrediad.