Site news

Teithio gan Ddysgwyr

Teithio gan Ddysgwyr

gan Deleted user -
Number of replies: 0

Hoffwn atgoffa penaethiaid o'u dyletswydd statudol i hyrwyddo negeseuon y ddogfen "Teithio gan Ddysgwyr" 2014. Mae'r canllawiau'n cyfeirio at yr holl ystod o deithio i'r ysgol a defnydd o gludiant gan yr ysgol. Mae'n ofyniad i sicrhau fod mesur yn cael ei ymgorffori o fewn Polisïau Ymddygiad ysgolion unigol. Hefyd dylai Cynghorau Ysgol drafod goblygiadau'r ddogfen.

Yn atodol i'r neges yma ceir y ddogfennaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd ail neges yn cynnwys dogfennaeth penodol yn y Gymraeg i'r ysgolion gan Llywodraeth Cymru. Yn yr un modd bydd y ddogfennaeth yn y Saesneg yn y drydedd neges.

Gofynnir i chwi sicrhau fod yr ysgol yn gweithredu ar y ddogfen gan adolygu polisïau fel bo angen ac yn lledaenu'r neges i ddisgyblion a'u teuluoedd.

Diolch am eich cydweithrediad.