Site news

Llywodraethwyr ar Baneli Apel Mynediad

Llywodraethwyr ar Baneli Apel Mynediad

gan Deleted user -
Number of replies: 0
  1. Llywodraethwyr ar Baneli Apel Mynediad:

    Gyda dyfodiad Côd apelau newydd Mynediad  mae’r Cyngor yn ceisio ffurfioli trefniadau trwy sefydlu grwp sefydlog o bobl y gall dynnu oddi arno i wasanaethu ar banelau apêl. Mae’n rhaid o dan y drefn ddiwygiedig i bob aelod fod wedi derbyn hyfforddiant ac mae’n haws trefnu hynny os oes yna grwp cydnabyddedig o bobl sydd wedi cytuno i eistedd ar y panelau pan fo gofyn. A oes yna fodd cywain barn llywodraethwyr yn enwedig rhai cynradd a rhai sy’n riant llywodraethwyr i weld a oes mwy o unigolion yn fodlon rhoi eu henwau ymlaen i fod yn rhan o bwl o bobl ar  gyfer y gwaith . Atodi’r manylion am gwaith a byddwn yn ddiolchgar petaech yn gallu pasio’r wybodaeth ymlaen I’ch llywodraethwyr. Os oes gan rhywun ddiddordeb, a fyddant gystal a chyslltu efo mi.

     

    Diolch am eich cydweithrediad.