Annwyl Gydweithwyr,
CWRDDHWB YNYS MÔN – TRE-YSGAWEN, CAPEL COCH 4.30PM – 6.00PM, DYDD MAWRTH TACHWEDD 18fed
Mae digwyddiadau CwrddHwb Llywodraeth Cymru yn dod i Ynys Môn ar 18 Tachwedd, a buasem yn ddiolchgar am eich cymorth wrth geisio sicrhau bod athrawon yr ardal yn ymwybodol o’r digwyddiad hwn.
Mae’r CwrddHwb yn gyfle anffurfiol iawn i athrawon ddod i gwrdd ag aelodau tîm Hwb a chael gwybod mwy am Hwb a Hwb+, ac i glywed am adnoddau digidol dwyieithog all gefnogi eu gwaith dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Yng NghwrddHwb Ynys Môn, gall athrawon edrych ymlaen at:
- weld pecyn adnoddau Llythrennedd a Rhifedd Hwb+ mewn cyflwyniad gan arweinwyd digidol Hwb;
- gwrdd â chynrychiolwyr o gwmni Just 2 Easy, fydd yn dangos y deunyddiau J2E sydd ar gael am ddim, dan drwydded cenedlaethol, i holl ddefnyddwyr Hwb+;
- gael cyflwyniad i wefan newydd Hwb a’r nodweddion newydd;
- gwrdd ag arbenigwr e-Ddiogelwch Llywodraeth Cymru;
- wrando ar Allen Heard, Ysgol Bryn Elian enillydd gwobr arian Pearson 2014 am ddefnydd rhagorol o dechnoleg mewn addysg;
- gwrdd â sefydliadau sy’n bartneriaid i Lywodraeth Cymru yn arddangos adnoddau dosbarth digidol diweddaraf, sydd ar gael AM DDIM.
Gan fod niferoedd yn gyfyngedig, bydd angen i athrawon gofrestru i fynychu ymlaen llaw – gellir archebu trwy dudalen digwyddiadau gwefan Hwb, neu gan ddefnyddio’r ddolen Eventbrite canlynol:
http://www.eventbrite.co.uk/e/cwrddhwb-ynys-mon-hwbmeet-ynys-mon-tickets-12458165709?aff=ebapi
Buasem yn ddiolchgar pe bai modd i chi wneud popeth posibl i annog athrawon i fynychu.
Diolch i chi am eich cydweithrediad.
Dymuniadau gorau
Tîm Hwb
Dear Colleagues,
ANGLESEY HWBMEET – TRE-YSGAWEN, CAPEL COCH, 4.30pm – 6:00pm, TUESDAY 18 NOVEMBER
Welsh Government’s series of HwbMeets comes to Anglesey on Tuesday 18 November, and we would be grateful for your co-operation in ensuring teachers across the region are aware of this event.
HwbMeets are a very informal opportunity for teachers to come along and meet the Hwb team, to find out about Hwb and Hwb+, and to hear about bilingual digital resources that can support their practice in the classroom.
At the Anglesey HwbMeet, teachers can look forward to:
- hearing about the new package of Hwb+ Literacy and Numeracy resources, introduced by the Hwb+ Digital Leaders;
- meeting Just 2 Easy representatives, who will be demonstrating the J2E materials available under national license to all Hwb+ users;
- seeing a demonstration of the new Hwb website and its additional features;
- meet with Welsh Government’s e-Safety officer;
- listen to Allen Heard, Ysgol Bryn Elian – winner of a 2014 Pearson Silver award for the outstanding use of technology in education;
- meeting other partner organisations who will be introducing their latest bilingual and FREE digital resources for use in the classroom.
Due to limited spaces, teachers will need to register their attendance in advance - bookings can be made via the Events section on the Hwb website, or using the following Eventbrite link:
http://www.eventbrite.co.uk/e/cwrddhwb-ynys-mon-hwbmeet-ynys-mon-tickets-12458165709?aff=ebapi
We’d be grateful if you could please do all that you can to encourage teachers to attend.
Thank you for your collaboration.
Best wishes
Hwb Team