Site news

Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

gan Deleted user -
Number of replies: 0
Mae'r Awdurdod yn awyddus i ysgolion ystyried cefnogi'r menter yma fel fod plant a phobl ifanc yn dod i ddeall a gwerthfawrogi eu treftadaeth. Dyma neges gan Ceri Williams o'r Adran Amgueddfeydd ac Archifau -
 
Dyma linc i wefan lle gall yr ysgolion dderbyn gwybodaeth am y gystadleuaeth a sut i gyflwyno cais .  Bwriad y fenter yw i annog plant a phobl ifanc i ddangos diddordeb yn eu treftadaeth.  Mae’r fenter yn cynnal cystadaleuaeth yn flynyddol ac mae'r ysgolion yn cael rhoi prosiectau hanesyddol ymlaen i'w  barnu.
 
Os hoffech fwy o fanylion yna cysylltwch a mi - Ceri Williams. 
 
Mewn blynyddoedd blaenorol nid oes nifer fawr o ysgolion Môn wedi cymryd rhan ond rwyf yn gwybod bod nifer fawr o’n hysgolion yn dilyn prosiectau hanesyddol gwych felly byddai’n braf meddwl y cai rhai o rhain y cydnabyddiaeth maent yn eu haeddu drwy rhoi cynnig ar gystadlaeaeth Cenedlaethol fel hyn.
 
 
Diolch
 
Ceri
 
Ceri Williams  ( 01248 752189)
Swyddog Mynediad a Dysgu: Amgueddfeydd ac Archifau
Access and Learning Officer: Museums and Archives