Site news

Cystadleuaeth yr Urdd

Cystadleuaeth yr Urdd

gan Debra Griffiths -
Number of replies: 0

Cystadleuaeth Adolygu Ffilm – Into Film ac Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2015

Roeddwn yn awyddus hyrwyddo yr isod yn y gobaith y bydd modd ichi ei hyrwyddo I’ch cysylltiadau ac annog ysgolion I gymryd rhan a manteisio ar ein gwasanaeth. Anfonwyd y llythyr hwn at bob ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg a Phennaeth Cymraeg yng Nghymru yr wythnos hon.

Y mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod arlwy cystadlaethau gwaith cartref Eisteddfod yr Urdd 2015 bellach yn cynnwys dwy gystadleuaeth newydd sy’n ymwneud ag adolygu ffilm – un ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 6 ac iau (hyd at 300 o eiriau) ac un ar gyfer myfyrwyr blynyddoedd 7,8, a 9 (hyd at 600 o eiriau).

Cefnogir y gystadleuaeth gan Into Film Cymru, elusen addysgol yw Into Film, sy’n anelu at roi ffilm yng nghanol profiadau addysgol a diwylliannol plant a phobl ifanc ym mhob rhan o Brydain. Yn 2013 derbyniodd Into Film fuddsoddiad sylweddol gan y BFI a’r diwydiant ffilm er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 5-19 mlwydd oed wylio a chreu ffilm a dysgu trwy ac am ffilm.  Trwy waith Into Film, anogir pobl ifanc i gymryd rhan mewn digwyddiadau cofiadwy, i ehangu eu gorwelion a chyffroi eu dychymyg. Ein hethos yw darparu cyfleoedd diwylliannol i’r rheini na fyddai, fel arall, yn elwa ar brofiadau tebyg, eu harfogi â sgiliau trosglwyddadwy a rhoi llwyfan iddynt ddatblygu eu hyder i gyrraedd eu potensial.  Yn ogystal â darparu cyfleoedd i bobl ifanc mae ein gwaith yn ymwneud â darparu hyfforddiant gwneud ffilm a llythrennedd ffilm i athrawon ac arweinwyr ieuenctid, er mwyn integreiddio ffilm yn rhan annatod a naturiol o waith bob dydd yr ysgol a’ch gweithgareddau allgyrsiol.

Mae Into Film am roi llwyfan i lais pobl ifanc Cymru trwy gyd-weithio â’r Urdd i lansio’r ddwy gystadleuaeth hyn. Y nod yw darparu cyfleoedd newydd a chyfoes i annog pobl ifanc i leisio eu barn, datblygu eu sgiliau ysgrifennu a rhannu eu profiadau ag eraill. Gellir teilwra’r adolygiadau mewn unrhyw arddull briodol, boed ar ffurf adolygiad arferol neu flog/dyddiadur.  Y mae’n bosib i’r unigolyn adolygu unrhyw ffilm sy’n addas i’w (h)oed a darperir canllawiau ar wefan Into Film  : http://www.filmclub.org/whats-new/details/2156/welsh-medium-review-writing-competition-with-urdd

Yma hefyd, darperir syniadau am sut i fynd ati i strwythuro adolygiad a chyngor o ran yr hyn y dylid ei gynnwys; o’r stori i’r sain, o’r cymeriadu i’r colur!

Gofynnir i chi anfon unrhyw geisiadau at Urdd Gobaith Cymru yn yr un modd ag unrhyw gystadleuaeth gwaith cartref arall (gwelwch y ddolen am yr holl fanylion) a’r dyddiad cau yw’r 1af o Fawrth 2015.

Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobrau ffilm priodol ar gyfer eu hoed a gweithdy gwneud ffilm / llythrennedd ffilm ar gyfer eu dosbarth ysgol.

I wybod mwy am y gystadleuaeth cysylltwch â Rheolwr Into Film Cymru  - Non Stevens: non.stevens@intofilm.org. Cofiwch fod modd i chi fanteisio ar gatalog cyfoethog o ffilmiau yn rhad ac am ddim trwy ddod yn ysgol Into Film Cymru. Fel rhan o’r gwasanaeth bydd modd i chi sefydlu clwb ffilm, defnyddio ffilm yn eich gwersi a dysgu sut i gynnal sesiynau gwneud ffilm â’ch myfyrwyr.

Hefyd, mae modd i chi gyflwyno cystadleuaeth adolygu ffilm fel rhan o’ch cystadlaethau Eisteddfod Ysgol ac, os hoffech chi wobrau ar gyfer y rhain, yna cysylltwch â ni. 

Cofiwch y byddwn yn dathlu 100 mlynedd ers geni T Llew Jones yn 2015, felly, dyma gyfle gwych i ganolbwyntio ar gymharu’r llyfrau a’r ffilmiau Tan ar y Comin a Dirgelwch yr Ogof a gellir archebu copïau o’r ffilmiau hyn trwy arlwy ffilmiauInto Film Cymru.

Edrychaf ymlaen at glywed gennych a chan obeithio y bydd ein cystadleuaeth o ddiddordeb i chi a’ch myfyrwyr.

Cofion gorau,

Non

Non Stevens

Rheolwr /Manager

Into Film C