Yn dilyn proses hir o ymgynghori mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi dyddiadau tymhorau ysgol go gyfer y flwyddyn addysgol 2016 2017 ar ffurf cyfarwyddyd; hynny yw mae rhain yn ddyddiadau i'w mabwysiadu ar draws Cymru gyfan. Mae'n rhaid eu mabwysiadu.
Amgaeaf y dyddiadau a chyfarwyddyd y Gweinidog er gwybodaeth.
Mae Tymor yr Hydref 2016 yn cychwyn ar Ddydd Iau, 1 Medi. Bydd 1 a 2 Medi yn ddyddiau HMS gyda'r disgyblion yn cychwyn ysgol ar Ddydd Llun, 5 Medi. Cyfrifoldeb ysgolion unigol yw pennu dyddiadau 3 diwrnod HMS yn ystod gweddill y flwyddyn. Disgwylir y bydd trafodaethau ar rain ymysg dalgylchoedd gan gynnwys y cynradd a'r uwchradd; a hefyd ymysg y teuluoedd sydd yn cydweithio ar ddatblygiad proffesiynol.
Gofynnir i chwi eu rhannu gyda rhieni ac eraill gyda diddordeb. Bydd y wybodaeth ar wefan y Cyngor Sir hefyd.
Diolch.