Annwyl Bennaeth /Cydlynwyr Ymweliadau Addysg
 
Mae templed polisi ar gyfer Ymweliadau Addysgol Ynys Mon 2015-16 (sydd yn ymgorffori gweithdrefnau’r Sir) nawr i’w weld ar safle Evolve Ynys Mon 
 
Rhaid i’r ysgol fod â Pholisi Ymweliadau Addysgol cyfredol wedi’i uwch lwytho ar system Evolve yn seiliedig ar dempled Polisi Ymweliadau Addysgol a ddarparwyd yn adran ’Adnoddau’ ar safle Evolve Ynys Mon www.angleseyvisits.org.uk . 
 
Er mwyn sicrhau bod eich polisi’r ysgol yn gyfredol:  
 
1.	Agor Templed Polisi Ymweliadau Addysgol Ynys Mon 2015-16 (atodwyd uchod a/neu i’w gael ar safle Evolve Ynys Mon www.Angleseyvisits.org.uk 
2.	Addasu’r adrannau sydd wedi eu hamlygu mewn melyn  i adlewyrchu’r hyn aiff ymlaen yn eich ysgol/sefydliad.  
3.	Gallwch ychwanegu at adrannau eraill o’r polisi i ddynodi anghenion ychwanegol ar gyfer cynllunio ymweliad o fewn eich ysgol/sefydliad ond NI DDYLECH ddileu unrhyw gynnwys o Adran A.
4.	Gweithdrefnau rheoli risg safonol (adran B) - rhaid i chi ddiwygio’r gweithdrefnau rheoli risg yn Adran B i ddangos sut mae eich arweinwyr ymweliadau yn rheoli ymweliadau oddi ar safle. Mae’n bwysig ei fod yn adlewyrchu’r gwir arfer yn ystod ymweliadau a gynhelir gan eich ysgol/sefydliad - os caiff ei nodi, disgwylir i bawb gydymffurfio. Ar ôl ei gwblhau, dyma’r asesiad risg safonol ar gyfer pob ymweliad oddi ar y safle a gynhelir gan eich ysgol/sefydliad. 
 
•	Mae disgwyl i’ch ysgol ddilyn gweithdrefnau’r AALL ar gyfer cynllunio, rhoi sêl bendith a monitro ymweliad addysgol trwy ddefnyddio’r system cynllunio a rhoi sêl bendith ar-lein EVOLVE ar gyfer ymweliad sy’n cael ei redeg gan staff neu wirfoddolwyr yr ysgol/sefydliad.  (Gweler atodiad uchod am rhagor o wybodaeth)
 
•	Rhaid i staff sy’n cynllunio ymweliad addysgol sicrhau eu bod yn cynllunio eu hymweliad gan ddefnyddio system EVOLVE www.Angleseyvisits.org.uk ac yn dilyn y gweithdrefnau a amlinellir yn y polisi hwn.   
 
Caiff y polisi hwn ei adolygu (a’i ddiweddaru) yn flynyddol (fel arfer Tymor yr Hydref).   Rhaid i staff sy’n cynllunio ymweliad addysgol sicrhau eu bod yn dilyn y gweithdrefnau a amlinellir yn y polisi hwn. Dylai staff hefyd gyfeirio at a dilyn y canllawiau perthnasol (sy’n ymwneud â natur yr ymweliad sy’n cael ei chynllunio) fel yr amlinellir yng nghanllawiau Panel Ymgynghorwyr Addysg Awyr Agored (OEAP) y gellir edrych arnynt yn adran ‘adnoddau ar Evolve  www.Angleseyvisits.org.uk.
 
Cysylltwch, os oes gennych angen cefnogaeth gyda’r uchod
 
Cofion 
 
Arwel Elias 
Ymgynghorydd Ymweliadau Addysg Gwynedd a Mon / Hyfforddwr Awyr Agored Nant BH OEC
Education Visits Advisor Gwyneddd and Anglesey / Outdoor Education Instructor Nant BH OEC
 
Gwasanaethau Addysg/Education Services
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg/Social Care and Education Services 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy County Borough Council
E-Bôst/E-Mail: arwel.elias@conwy.gov.uk 
Ffôn/Tel: 01492 643 089
Symudol/Mobile: 07775 030 241 
                        
    
    
    
                            
    
                                    
                                    
                                    
    
                                
    
                            
                    