Site news

Rheolaeth Tận

Rheolaeth Tận

gan Deleted user -
Number of replies: 0

Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu gyda holl awdurdodau Cymru yn holi am eu sefyllfaoedd rheolaeth tận a gwneuthuriad adeiladau ysgolion. Hyn wrth reswm yn dilyn trasiedi Twr Grenfell y Llundain a'r angen i sicrhau nad oes unrhyw risg i'r dyfodol. Felly mae'r Awdurdod yn eich cyfarwyddo i gwblhau'r tasgau canlynol gan nodi mae cyfrifoldeb penaethiaid yw hyn yn sgil eu cyfrifoldebau fel rheolwyr safle.

A. Erbyn diwedd y tymor.

1. Cynnal ymarfer tận (fire drill) os nad ydych eisoes wedi cynnal un. Mae angen cofnodi'n swyddogol y dyddiad ac unrhyw sylwadau. Mae angen cynnal un pob tymor.

2. Profi larwm tận yr ysgol. Mae angen hyn ddigwydd yn wythnosol gan eto cofnodi'n swyddogol.

3. Sicrhau fod llwybr dihangfa tận yn glir e.e. drysau heb eu cloi, ardal o gwmpas y drws yn glir, arwyddion yn eu lle.

B. Erbyn diwedd mis Medi.

5. Adolygu rheolaeth tận yr ysgol, yn seiliedig ar adroddiad Oakleaf (amgáu er hwylustod DRWY EBOST I YSGOLION UNIGOL) ac adolygiadau ers hyn drwy gynnal asesiad rheolaeth tận.

6. Llunio Cynllun tận yr ysgol.

Gofynnir i ysgolion danfon eu hasesiad a chynllun i sylw Delyth Owen Davies , DelythOwenDavies@ynysmon.gov.uk , erbyn 30 Medi, 2017. Bydd Delyth yn llunio adroddiad ar sefyllfa ysgolion yn seiliedig ar y wybodaeth a dderbynnir. Mae templedi i dasgau 5 a 6 wedi eu gosod ar safle AddysgMon er hwylustod. Mae'r asesiad rheolaeth tận ar gael yn y Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Bydd fersiwn Cymraeg ar y ffordd yn fuan. Ymddiheurwn am hyn.