-
‘Dros y Top’ – rifíw gan Bara Caws i nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf
Mi fydd Bara Caws ar daith o amgylch cymunedau Cymru gyda rifíw yn nodi’r Rhyfel Byd Cyntaf o- ‘Dros y Top’. Mi fyddwn yn ymweld â dau leoliad ar Ynys Môn – Theatr Fach Llangefni, Nos Iau 17 o Ebrill a Chanolfan Ucheldre, Caergybi, Nos Iau 24 o Ebrill. Mae Bara Caws wedi gwahodd Theatr Ieuenctid Môn a Ieuenctid Theatr Fach Llangefni i roi cyflwyniad bach yn ystod y cynhyrchiadau ar Ynys Môn – boed yn gerdd, can neu stori am y Rhyfel Byd Cyntaf, yn ymwneud a’u cymuned hwy. Tybed a fyddai modd i chi rannu’r wybodaeth yma gyda prifathrawon Ysgolion Môn? Mae’n debyg fod y Rhyfel Byd Cyntaf ar gwricwlwm yr ysgolion eleni. Mae’r rifíw yn addas ar gyfer pob oedran. Efallai y byddai modd i’r prifathrawon roi gwybod i’r disgyblion ynglŷn a’r nosweithiau yng nghymunedau Môn. Am fanylion pellach cysylltwch â Linda Brown, (Bara Caws) 01286 676335
