Croeso i wefan Addysg Môn. Nod y wefan hon yw hwyluso cyfathrebu rhwng yr Adran Dysgu Gydol Oes a phenaethiaid, a chryfhau'r cyswllt rhwng ysgolion. Yn yr adran 'dogfennau' fe welwch gyfres o dudalennau sydd yn rhannu gwybodaeth fel polisïau a chynlluniau. Hefyd, ar adegau penodol o'r flwyddyn byddwn yn gofyn i chi uwchlwytho dogfennau i'r adran 'cyflwyno dogfennau' er mwyn gallu coladu ymatebion ysgolion yn drefnus. Mae'r adrannau 'fforwm', 'teuluoedd' a'r 'farchnad' yn llefydd i drafod materion pwysig ac i rannu arferion. Yn yr adran 'cofnodion' fe welwch archif o drafodaethau grwpiau gwahanol, ac mae'r adran 'cysylltwch' yn gasgliad o fanylion staff allweddol. Mae'r calendr ar y chwith yn rhyngweithiol - cliciwch ar y mis am fwy o wybodaeth.