Site news

CYNLLUN DATBLYGU YSGOL MEDI 2015

CYNLLUN DATBLYGU YSGOL MEDI 2015

gan Deleted user -
Number of replies: 0

Gweler isod neges gan Llywodraeth Cymru ynghylch y gofyn statudol am Gynllun Datblygu Ysgol o fis Medi 2015. Mae ychydig o ofynion ychwanegol ac amgaeaf daflen gan GwE sydd yn amlinellu rhain. Anelir i drafod y gofynion ymhellach mewn cyfarfod penaethiaid yn y flwyddyn newydd a bydd y pwnc ar agenda Ymweliad 3 ysgolion unigol. Mae aelodau'r grwp strategol cynradd wedi trafod y gofynion a gallent adrodd yn ol drwy'r dulliau arferol rhwng ysgolion. Amgaeaf y ddogfen berthnasol i'ch sylw.

Neges Llywodraeth Cymru.

Byddwch yn ymwybodol bod rheoliadau yn cael eu cyflwyno, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, ynghylch paratoi a chynnal cynlluniau datblygu ysgolion. Daeth y rheoliadau newydd i rym ar 27 Hydref ac, erbyn 1 Medi 2015, bydd gofyn i bob ysgol a gynhelir fod â chynllun datblygu sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau newydd.

 

Y Cynllun Datblygu Ysgolion yw cynllun strategol yr ysgol ar gyfer gwella. Mae’n seiliedig ar hunanwerthuso trwyadl, ac yn amlinellu’r camau y bydd ysgol yn eu cymryd i wella canlyniadau dysgwyr yn y tymor byr a’r tymor hir. Yn ogystal â rhoi ffocws i’r ysgol wrth iddi wella ei darpariaeth, bydd hefyd yn llywio’r her a’r cymorth a ddarperir gan y consortia rhanbarthol.

Bydd y Cynllun Datblygu yn gynllun treigl tair blynedd, a gymeradwyir gan y corff llywodraethu, sy’n amlinellu sut bydd yr ysgol yn cyrraedd ei dargedau mewn perthynas â’i blaenoriaethau a sut y bydd yn defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddi. Bydd hefyd yn dangos sut mae’r ysgol yn bwriadu datblygu ei staff er mwyn cyflawni blaenoriaethau’r ysgol a chyrraedd ei thargedau, a bydd felly yn rhoi ystyriaeth i gylch blynyddol yr ysgol o reoli perfformiad.

I lawer o ysgolion, os oes ganddynt drefniadau effeithiol ar waith, ychydig fydd yn gorfod newid yn sgil y gofynion statudol hyn, os o gwbl.

 

Mae’r rheoliadau a’r canllawiau atodol i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru yn http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/schoolshome/school-development-plans/

ac ar Dysgu Cymru yn http://learning.wales.gov.uk/yourcareer/school-development-plans/?skip=1&lang=cy