Mae Estyn yn ymgynghori ar drefniadau arolygu newydd i gychwyn ym Medi 2017. Gellwch gwblhau holiadur ar lein drwy wefan Estyn neu gwblhau fersiwn print a'i ddanfon i Estyn. Amgaeaf yr holiadur yn y Gymraeg a'r Saesneg er hwylustod. Anogir chwi i hybu trafodaeth yn eich cymuned ysgol gan ymateb i Estyn erbyn 11 Tachwedd.
Diolch.