Amgaeaf raglen hyfforddiant Llywodraethwyr 2015-2016.
Mae'r cyrsiau mandadol i Lywodraethwyr newydd, Cadeiryddion a Chlercod yn gyrsiau e ddysgu a gofynnir i chwi gwblhau Ffurflen A o fewn y rhaglen a'i ddanfon i sylw Carol Snowden erbyn 30 Tachwedd. Amgaeaf gyflwyniad ar y safle e ddysgu er gwybodaeth ac i'w rannu gyda'r Corff pan yn gyfleus. Ymddiheuriadau mai fersiwn Saesneg yn unig sydd ar gael.
Gofynnir i'r penaethiaid arwain ar y cwrs data i'r Llywodraethwyr hynny sydd ddim wedi ei dderbyn y llynedd. Amgaeaf yr arweiniad ar hyn a rannwyd yn wreiddiol.
Bydd union fanylion gweddill y cyrsiau yn nes at yr amser.
Mae croeso cynnes i'r Cyrff awgrymu meysydd go gyfer hyfforddiant; unrhyw awgrymiadau i sylw Gareth Jones, Swyddog Addysg.
Diolch am eich cydweithrediad.