Site news

Negeseuon Cyfarfod Busnes Cynradd 28 Tachwedd 2013

Negeseuon Cyfarfod Busnes Cynradd 28 Tachwedd 2013

gan Deleted user -
Number of replies: 0

Diolch i bawb am fynychu heddiw. Danfonaf hwn allan i brofi'r system ac i rannu ychydig o wybodaeth.

1. Amgaeaf grynodeb o arweiniad ar absenoldeb staff.

2. Amgaeaf Rhaglen Hyfforddiant Llywodraethwyr.

a. Mae'n ofynnol fod pob Llywodraethwr newydd sydd wedi cychwyn ers Medi 2012 yn mynychu cwrs anwytho, hyd yn oed os ydynt wedi bod yn Lywodraethwyr o'r blaen. Mae hyn yn cynnwys Llywodraethwyr sydd yn cael eu hail ethol. Anelir i gynnal cwrs ychwanegol ym mis Medi.

b. Mae'n ofynnol fod pob Cadeirydd yn mynychu hyfforddiant os nad ydynt wedi mynychu cwrs o'r blaen.

c. Mae'n ofynnol fod pob clerc yn mynychu hyfforddiant.

ch. Mae'n ofynnol fod pob Llywodraethwr yn derbyn hyfforddiant ar ddata.

Rhaid cwblhau'r hyfforddiant cyn 1 Medi 2014.

Diolch