Mae'r Cyngor Sir drwy'r Uned Cefnogi Teuluoedd yn cynnal asesiad digonolrwydd gofal plant. Mae hyn yn waith statudol ac mae cais i chwi fynd i'r linc isod i gwblhau’r holiadur os ydych yn cynnig clwb brecwast, clwb ol ysgol, wrap around neu unrhyw fath o ofal plant arall.
Mae’n bwysig bod y darparwyr i gyd yn ymateb er mwyn i ni gael gwir ddarlun o’r gofal plant sydd ar gael i deuluoedd Môn.
Yn ogystal mae holiadur i rieni ar gael . Efallai byddai’n syniad ei rannu ar safleoedd we yr ysgolion a drwy’r sustem text.
Bydd yr Uned hefyd yn rhannu copiau papur o’r holiadur o amgylch ysgolion yn yr ardaloedd mwyaf di freintiedig.
Diolch am eich cefnogaeth.