Site news

Cynllun Prynu Adnoddau Addysgol

Cynllun Prynu Adnoddau Addysgol

gan Deleted user -
Number of replies: 0

Yn ddiweddar mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi danfon llythyr i ysgolion Cymru yn datgan bod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £300 i bob ysgol gynradd yng Nghymru; hyn i'w wario gyda'r Cyngor Llyfrau. Mae angen danfon y ffurflen ddaeth gyda'r llythyr i'r Cyngor Llyfrau erbyn 14 Chwefror.Mae'r Awdurdod yn eich cymell i symud ar hyn yn fuan. Amgaeaf copi o'r llythyr ond nid ydym wedi derbyn copi o'r ffurflen archebu. Os nad oes gennych ffurflen archebu dylech gysylltu gyda'r Cyngor Llyfrau neu cael copi gan ysgol gyfagos. Pob hwyl gyda'r gwario.