Site news

Teuluoedd ysgolion

Teuluoedd ysgolion

gan Deleted user -
Number of replies: 0

Pnawn da

Diolch i chi am eich gwrandawiad yn y Cyfarfod Busnes yr wythnos ddiwethaf a’ch ymatebion cadarnhaol.

Hoffwn eich atgoffa o dri pheth fydd angen sylw gan y teuluoedd cyn ein cyfarfod nesaf ganol Chwefror.

  1. Rydych oll wedi derbyn taflen gan Tristan yn cynnwys y cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio gwefan Addysg Môn, neu fe fyddwch yn derbyn y daflen gan Gari os nad oeddech yn bresennol yn y prynhawn. Byddai’n dda o beth pe byddech yn gosod y dudalen hon fel blaen ddalen ar eich cyfrifiadur ‘rheoli’ yn eich swyddfa yn lle un CYNNAL. Mae’r wefan  eisoes yn cynnig llawer o bolisïau defnyddiol y gallwch eu defnyddio a’u haddasu, ond mae hi hefyd yn gyfrwng gwych i rannu pob math o wybodaeth. Dylai pob teulu roddi trafodion eu cyfarfodydd arni’n rheolaidd a gellid hefyd ddatblygu’r fforwm i gynnig neu i geisio gwybodaeth neu adnodd. Rwy’n atodi cyflwyniad PowerPoint Tristan.

 

  1. 2.   Roedd y drafodaeth ar y broses o gydweithio yn un ddiddorol. Perthnasol iawn oedd sylw Owen Meredydd am yr ymateb i’m cynnig i  drefnu gweithgaredd rhannu sirol unwaith eto yn ystod un o’r nosweithiau gwyll, sef nad oedd angen hynny bellach gan fod y teuluoedd wedi gafael yn yr agenda ac yn ymgymryd â’r gwaith yma. Un neges bwysig sydd gen i, ac a ategwyd gan Trebor, yw'r angen i ddatblygu’r cydweithio i drefnu sesiynau arsylwi ar y cyd ac i graffu ar waith o fewn ysgolion y teuluoedd yn yr ymdrech i godi safonau. Mae’n hanfodol ein bod yn gallu mesur effaith ein cyfundrefn newydd ar yr agenda codi safonau o fewn y sir ac yn gallu adrodd ar y gwahaniaeth mae’r drefn newydd yn ei chael. Cofiwch felly drafod y mater hwn yn eich cyfarfodydd teuluoedd ac yn arbennig felly sicrhau cyfleoedd i’ch staff, yn athrawon a chymorthyddion, i ymweld ag ysgolion eraill i weld arfer dda ac i barhau’r broses o ledaenu’r arferion hynny. Buasai’n braf iawn pe byddai pob un o’r saith teulu yn gallu cyflwyno adroddiad o’r gweithgareddau cyn y cyfarfod busnes nesaf.

 

 

  1. Fe gofiwch i mi ofyn i chi drafod iaith yn ysgolion Môn yn eich cyfarfodydd teulu. Roedd y cyflwyniad yn seiliedig ar ddata sirol a data’r cyfrifiad, ac yn creu darlun eithaf tywyll. Mae angen i ni fynd i’r afael â’r agenda iaith yn ystod y flwyddyn academaidd hon fel rhan o’r broses sirol o hybu a chryfhau ein darpariaeth. Byddaf yn trefnu cyflwyniad ar eich cyfer o weithdrefnau ‘Siarter Iaith Gwynedd’  yn  ein cyfarfod busnes nesaf ac yn rhoddi gwybod i chi yn gyson am unrhyw ddatblygiadau. Fe geisiaf sicrhau copi o ddogfen arweiniol y Siarter Iaith i chi’n fuan. Gallwn gynnal trafodaeth y tymor nesaf ynglŷn â’r math o gynllun hybu iaith y gellir ei fabwysiadu yma ym Môn a pha gymorth y byddwch ei angen fel ysgolion yn eich ymdrechion i sicrhau ein bod yn cyrraedd nodau Polisi Iaith y Sir.

 

Pan fyddwch yn trefnu eich cyfarfodydd teulu'r tymor nesaf, oes modd i chi ddanfon y dyddiadau a'r lleoliadau  ataf? Fe hoffwn fynychu o leiaf un cyfarfod o bob teulu os yn bosibl.

Unwaith eto, diolch am eich cymorth a’ch brwdfrydedd.

Cofion gorau

Idriswyn